08/09/2026
Ann Igam Ogam 💜💚
Amlen fyddai’n ei thrysori yn y Stiwdio am byth 🕊️
Bues i’n ffodus iawn o fod yn rhan o dîm Igam Ogam am gyfnod tra yn y Brifysgol. Gweithio gydag Ann wthiodd fi fwy i fyd brodwaith ar ôl gadael y Brifysgol, wrth i mi ddysgu gymaint ganddi. Fydden ni bendant heb ddechrau Stiwdio Lowri heb yr angerdd ges i wrth Ann. Dwi wedi bod mor falch o allu rhoi nôl i Ann dros y misoedd diwethaf a helpu allan gyda’r brodio.
Diolch am bopeth Ann 💜