28/04/2024
Mae adeilad Oriel Tonnau ar werth, ac mi ryda ni yn awyddus i’w werthu!
Mae o ar gael fel un lot, siop a chaffi, dau fflat, gofod arddangos, stiwdio enfawr a dwy ystafell o weithdy.
Mae o hefyd ar werth fel dau lot arwahan.
Lot un: Siop a chaffi a dau fflat fel mae o rwan, ond efo potensial i fod yn siop/ caffi/ bar/tap room/ bar coctêls/ dau fflat ychwanegol a siop lai.
Lot dau: Gofod arddangos, stiwdio a gweithdai. Addas ar gyfer unrhyw waith diwydiannol, ysgafn,fframio/ peintio/ail wneud dodrefn/ gwaith gwnio upholstro neu fflatiau.
Mae’r posibiliadau yn ddi-ben draw efo’r adeilad,ac mae angen rhywun efo dychymyg, sydd yn medru meddwl tu allan i’r bocs i neud i’r lle weithio i chi!
Mae’r rhod yn troi ym Mhwllheli, gyda Y Tŵr a Becws Gwalia Bakery yn rhoi ail wynt i’r Stryd Fawr, a Keith Brymer Jones yn ail wneud Capel Salem,Pwllheli . Be amdani felly?! Gall hon fod yn fenter ddelfrydol i unigolyn neu ar y cyd.
Mae croeso i chi anfon negas breifat ata i yn bersonol, neu gysylltu efo Sion yn Tir ac Eiddo LWH Land and Property am fwy o wybodaeth. Diolch a rhannwch os gwelwch yn dda!
Y Cyfan -
https://lwhproperty-property-details.apex27.co.uk/341718?fbclid=IwZXh0bgNhZW0CMTEAAR2SNsymcHjlGe3ooAuy8sa479Ip6IswFpKYMKnpqdx3AfHu-D203CkJ27U_aem_ASaR6xnTjrdT1I3ZT87-xl0TJOHjHC_7UctigvIUUU3E0hf948l0ew0dV2vZV3-16eyHhW7ENWn1VxR_Qq9RiC9_
Uned Ddiwydiannol -
https://lwhproperty-property-details.apex27.co.uk/498432?fbclid=IwZXh0bgNhZW0CMTEAAR0eNJYgrkWGaILnsRRKr1DxvtJlrMmQT_2WXbrUHbkHJVSNH5Tb_Et0Y78_aem_ASYoJrocCc8AWPvN0AyA17S17ar9r9yL8ZnxZijqsRE9GR24u_wnHpylKDv9dM2ZQ68YnXootT5np8j7-6MHISSp
Y Siop a’r ddau fflat -
https://lwhproperty-property-details.apex27.co.uk/498436?fbclid=IwZXh0bgNhZW0CMTEAAR0l-ZZBtjeN1yJKxf5IbKWkOze45V_fCa0-S0rKdwLQHcA1acSx6ifaQ-w_aem_ASZ3NJohDA4S-Led4r-qb1QGjIbYQZJhpjJRNty1oekiegootuV1wQdK7VCN7roIl8JAbYizb21Mh9-ILEppBixW
4 bed Mixed - Retail, Workshops and 2 Apartments, Pwllheli, Gwynedd