Tirluniau o ddefnyddiau amrywiol sy’n portreadu’r harddwch o’n cwmpas yng Ngogledd Cymru. Amdanaf i
‘Dwi’n byw yn Nyffryn Clwyd – ardal o harddwch eithriadol yng Ngogledd Cymru. Nodweddau’r tir a’r golygfeydd syfrdanol sy’n ysbrydoli fy ngwaith – y ffordd mae’r mynyddoedd a’r bryniau yn plygu a’r cloddiau yn troi a throelliu yn y dyffryn ac fel mae’r golau a’r tymhorau yn altro a newid y lliwiau.
Yn ogystal a hyn rwy’n sylwi fel mae dyn wedi rhoi ei stamp ar y bryniau a’r dolydd – bythynod gwyngalchog, cloddiau yn amgylchynu’r caeau a heidiau o ddefaid brid arbennig yn pori yn ddi-hid ym mhobman. Allai ddim osgoi effaith y pethau hyn ar fy ngwaith – dwi’n gweld siapiau a phatrymau a gwead ym mhobpeth! Dechreuais wnio a phwytho yn ol yn y dyddiau pan oedd Twiggy yn dechrau gwisgo’r sgert mini. Gwnio oedd yr unig ffordd i neud yn siwr fy mod i yn cadw i fynny a’r ffasiwn. Roedd gen i hen beiriant gwnio Singer a gefais gan Nain a stoc reit dda o ddefnyddiau yn Betty’s Fabrics yn Llandudno a ffwrdd a fi yn dynwared pob agwedd o steil Twiggy! Erbyn hyn does dim gymaint o bwysau arnaf i gadw i fynny hefo’r ffasiwn diweddaraf ac mae’r siopau lleol yn fwy na digon i’n nghadw i yn ffasiynol, felly mae’r pwytho wedi newid i fod yn rhywbeth mwy artistig! Rwy’n defnyddio tecstilau a defnyddiau amrywiol mewn lliwiau niwtral i gychwyn – cotwm, gwlan, calico, muslin a sidan. Wedyn mi fydda i yn eu peintio neu llifo i gael y gwahanol liwiau. Yna rwy’n mynd ati i osod y defnyddiau gan eu plygu a’i plethu i bortreadu siapiau y tirffurfiau cyfarwydd sydd o’m cwmpas. Rwy’n cofio darllen yn rhywle fod y bardd Wordsworth yn cyfansoddi ei farddoniaeth wrth feddwl mewn tawelwch am ei deimladau a’i brofiadau; “emotions recollected in tranquillity” ddywedodd o am ei arddull. Wel, mae hi’n rywbeth tebyg arna i hefyd, rwy’n teimlo rhyw dawelwch braf pan fydda i yn gwnio ac yn cofio’r golwgfeydd o’m cwmpas. Felly o fy nychymyg neu fy nghof rwy’n creu y tirluniau nid o arsylwi yn fanwl. Ambell waith fe fydd rhyw ddarn o farddoniaeth yn treiddio’n ngwaith hefyd – effaith blynyddoedd o fod yn athrawes Saesneg mae’n siwr! Pan fyddai yn dechrau pwytho ‘does wybod sut fydd pethau yn troi allan – bron fel pe tai y darn yn dod at ei gilydd ei hun! Rwy’n rhoi’r cyffyrddiadau terfynol ar bob un gyda llaw ac rwy’n ymwybodol bellach fod bythynod a defaid yn dechrau dod yn fotiff gylchol yn fy nhgwaith ond wedyn mae’n nhw o’n ngwmpas ym mhobman! Serch hyn mae pob llun yn unigryw a tydw i ddi m yn cychwyn un cyn gorffen y llall! Stitch by stitch
These are made with
Wool and cotton
Silk and scrim
Threads and needles
And time…
Original and unique hand- made mixed textile landscapes inspired by the beauty which surrounds us in North Wales. About me
I live in the Vale of Clwyd, North Wales, an area of outstanding natural beauty. My textile work is inspired by the local landforms - the pleats and folds of the hills and valleys and the colours and subtle tones brought about by the light fading and the seasons changing. In contrast to these natural aspects there are the shapes and outlines formed by man – white-washed cottages, neat field boundaries, ploughed furrows and carefully bred sheep grazing. I can’t avoid being affected by these sights – I see patterns and shapes everywhere I look. I’ve been sewing ever since Twiggy first sported a mini shift! It was the only way to replicate the latest fashions in North Wales! I had my grandmother’s Singer hand turned machine and Betty’s Fabrics in Llandudno and the fashion world was mine! These days I am no longer such a dedicated follower of fashion and to be honest the shops in North Wales have everything I could need to keep “on trend” and so I’ve turned my sewing skills to something more artistic. In his preface to The Lyrical Ballads, Wordsworth said that his best poetry came from “emotion recollected in tranquillity... I know what he means because I’m never more tranquil than when I’m in my sewing room. I think I experience Images “recollected in tranquillity” though, more than “emotions”. The landscapes are from memory and impressions rather than from direct observation. They portray familiar views and sights but are coloured by my recollections and sometimes by my imagination. I use calico, muslin, cotton, wool and silk in neutral colours and dye or paint the fabrics to attain the subtle tones of nature. I cut and fold and layer the fabrics to replicate the landforms. Then the sewing starts and the piece takes a life of its own. I never quite know where it’s going to go, which makes every piece unique. Sometimes a line of poetry comes to mind and that triggers the final look of the piece. Keats, Wordsworth, Coleridge and R.S, Thomas are in my head at the moment. There’s no way I could spend all those years as an English teacher and leave them behind. I finish off by adding hand stitched details. The sheep and cottages are becoming a recurring motif but they are everywhere after all.